Bydd y dadorchuddio yn ddathliad creadigol ac uchelgeisiol fydd yn adleisio elfennau o gyrhaeddiadau arloesol a niferus Cranogwen.
Diolch i Monumental Welsh Women, nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales, cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales ac Urdd Gobaith Cymru bydd llu o artistiad yn rhan o’r digwyddiad gydag artistiaid lleol i Geredigion sydd â statws rhyngwladol megis Qwerin ac Eddie Ladd, artistiaid cenedlaethol megis Casi Wyn, Bardd Plant Cymru a Hannan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru yn ogystal â disgyblion ysgolion lleol.
Cranogwen oedd y ferch gynta’ i ennill gwobr barddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac un a fydd yn llywio seremoni yn ystod y dydd bydd Yr Athro Mererid Hopwood, y ferch gynta’ i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd y Prifardd –
“Mae’n fraint aruthrol bod yn rhan o’r dathliadau i gofio am gyfraniad arloesol Cranogwen. Bydd cael cefnogi cymuned Llangrannog a phawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Cymru a’r byd yn cofio amdani yn dipyn o wefr. Dyma fywyd a dyma fenyw i’n hysbrydoli ni i gyd.”
Mae yna wahoddiad agored i bawb ymuno yn y dathliadau ar ddydd Sadwrn, 10 Mehefin fydd yn cychwyn gyda gorymdaith liwgar o wersyll yr Urdd, Llangrannog. Bu Cranogwen yn llywydd ar Undeb Dirwestol Merched y De a bydd yr orymdaith yn talu teyrnged i’r gwaith hynny. Mae’r artist Meinir Mathias am gynnal gweithdai agored cyn y diwrnod mawr er mwyn creu baneri ar gyfer yr orymdaith (dyddiadau i’w cyhoeddi maes o law) ac mae’r bardd Mari George wedi ysgrifennu geiriau newydd i dôn Gwyr Harlech i bawb gyd-ganu ar y daith.
Dywedodd Elin Jones AS ac aelod o Bwyllgor Llywio’r Cerflun –
“Hir yw pob aros a mawr yw’r disgwyl wedi bod ar gyfer y cerflun yma o Granogwen, un wnaeth gyflawni sut gymaint yn ei hardal leol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a hynny mewn adeg ble nad oedd yn dderbyniol i fenywod wneud y fath bethau. Gobeithir y bydd dadorchuddio’r cerflun yn y modd creadigol hwn yn ffordd o dalu teyrnged haeddianol i fenyw cwbwl ryfeddol.”
Ysgol T Llew JonesHwb Cymunedol Llangrannog Community HubThe Pentre Arms LlangrannogUrdd CeredigionGwersyll yr Urdd LlangrannogMerched y Wawr Rhanbarth Ceredigion