Categories
Press

Ffion Hague

** Cranogwen Statue update – English below **

Ffion Hauge and the team

Diolch o galon i’r hyfryd Ffion Hague a’r criw am ddod i sgwrsio gyda ni yn y Pentre am brosiect cerflun Cranogwen.

Buon ni’n siarad ar gamera am gychwyn y prosiect rhyw bedair blynedd yn ôl, sut mae stori Cranogwen wedi apelio at gynulleidfa eang iawn, sut mae cynlluniau ar gyfer gardd y pentref wedi ‘u datblygu, a rhannu’r elfennau hynny o hanes Cranogwen sydd wedi ein hysbrydoli.

Buon ni hefyd yn siarad am yr heriau rydyn ni wedi’u hwynebu wrth i ni gomisiynu’r cerflunydd. Sonion ni am godi arian yn ystod Covid a’r argyfwng costau byw, ac am gadw’r momentwm i fynd fel gwirfoddolwyr.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yr wythnos ar ôl i’r cerflun gael ei ddadorchuddio ar y 10fed o Fehefin.

Weithiau mae ein tîm bach ni’n teimlo ein bod ni wedi gorfod wynebu cyfnod heriol iawn yn ddiweddar, ac mae’n dda gallu trafod gydag eraill sy’n angerddol ac yn wybodus am Cranogwen, ei stori, ei llwyddiannau, ei heffaith ehangach a‘i pherthnasedd i’r dyfodol. Fel cyflwynydd Mamwlad, mae Ffion yn sicr yn gwybod am hanes ei merched Cymreig!

Mae Ffion a’r criw hefyd wedi bod yn ffilmio ym Mrynaeron, tŷ Cranogwen ym Mhontgarreg, ac ar y traeth gyda’i chofiannydd Jane Aaron (bydd ei llyfr yn cael ei lansio yn y Beach Hut ar yr 4ydd o Fai).

Mae Cranogwen yn parhau i ddatblygu yn y ffowndri o dan lygad barcud Seb, tra bod y gweddill ohonon ni yn parhau gyda chynlluniau ar gyfer y diwrnod dadorchuddio ar y 10fed o Fehefin. Bydd llawer mwy o wybodaeth i ddod yn fuan.

Yn gyffredinol, rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth gan y gymuned, ymwelwyr a sefydliadau fel Monumental Welsh Women, ac rydyn ni yn aml yn synnu bod hyn yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd – felly diolch!

Diolch o galon to the lovely Ffion Hague and crew for coming to chat to us in the Pentre about the Cranogwen statue project.

We talked on camera about the inception of the project some four years ago, how Cranogwen’s story resonates with so many different people, how plans for the village garden have developed, and shared parts of Cranogwen’s history that have inspired us. We also spoke about challenges we have faced with our commissioning of the sculptor, raising funds during Covid and the cost of living crisis, and keeping the momentum going as volunteers.

The programme will air the week after the statue unveiling on 10 June.

Sometimes our little team feels like we’re rolling boulders uphill trying to keep everything going, and it’s absolutely ffab to discuss it with others who are passionate and knowledgable about Cranogwen, her story, achievements, wider impact and future relevance. As the presenter of Mamwlad, Ffion definitely knows her Welsh women’s history!

Ffion and crew have also been filming at Brynaeron, Cranogwen’s house in Pontgarreg, and on the beach with her biographer Jane Aaron (whose book will be launched in the Beach Hut on 4 May).

Cranogwen continues to take her final form up in the foundry under the watchful eye of Seb, while the rest of us continue with plans for the unveiling day on 10 June. There will be loads more info to come soon!

We have generally felt bowled over by the support we have had from the community, visitors and organisations like Monumental Welsh Women, and we are often in awe that this is actually going to happen – so thank you!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *