Categories
Digwyddiadau

Hanes Cranogwen

Dim ond 30 diwrnod tan perfformiad cynta’ o daith theatrig fydd yn dod â hanes Cranogwen, yn fyw!

Bu Cranogwen yn annog talentau menywod eraill ar hyd ei hoes a thîm benywaidd o dan arweiniad Eleri Twynog Davies sydd wedi mynd ati i greu’r ddrama. Meddai Eleri o gwmni Mewn Cymeriad / In Character :

“Cyn cychwyn ar y prosiect hwn, doedd gen i fawr o syniad am hanes Cranogwen, ac felly mae wedi bod yn bleser pur, yn enwedig fel Cardi fy hun, i ddod i adnabod y ferch anhygoel hon. Edrychwn ymlaen at rannu a dathlu ei hanes gyda chynulleidfaoedd dros Gymru gyfan.”

Ffion Dafis sydd wedi sgriptio’r ddrama, Janet Aethwy sy’n cyfarwyddo a Lynwen Haf Roberts fydd yn actio rhan Cranogwen. Derbyniodd Lynwen ganmoliaeth a chlod yn ddiweddar gyda’i pherfformiad cwbl ryfeddol o ddynes gref ffeministaidd ym mhrif rhan ‘Lloergan’, sioe agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Bu Ffion a Lynwen hefyd yn rhan o banel fu’n trafod Cranogwen yn Y Babell Lên yn ystod y brifwyl.

Mi fydd taith theatr ‘Cranogwen’ yn agor gyda pherfformiad yn Neuadd Goffa Pontgarreg Memorial Hall ar nos Wener, y 30ain o Fedi. Lleoliad cwbl addas i gychwyn y cyfan gan i Cranogwen gael ei geni dafliad carreg o’r neuadd a bu’n athrawes yn ysgol Pontgarreg. Dywedodd Elin Jones, aelod o Bwyllgor Llywio Cerflun Cymunedol Cranogwen –

“Mae’n gyfnod hynod gyffrous dros y misoedd nesaf yn yr ymdrech i dalu teyrnged barhaol i Cranogwen. Bydd sioe theatr Cranogwen gan Mewn Cymeriad yn rhoi cychwyn ardderchog i flwyddyn fydd hefyd yn gweld cerflun a chofiant iddi. Bydd clywed stori arloesol Cranogwen yn dod â’i chymeriad yn fyw i gynulleidfa newydd a’i chadw yn ein cof am byth.”

Dim ond 12 perfformiad sydd o’r sioe felly gwnewch yn siwr na fyddwch chi’n ei golli!

Mwy o fanylion am y daith : https://www.mewncymeriad.cymru/cranogwen

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts CentreCastell Aberteifi – Cardigan CastleCanolfan S4C Yr EginTheatr Twm O’R Nant : DenbighLlanover Hall Arts – Neuadd LlanoferCanolfan Garth Olwg Centre

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *