Categories
Barddoniaeth

Barddoniaeth y Cerflun

Dyma’r barddoniaeth sy ar y ffrog Cranogwen.

Here is the poetry that is on Cranogwen’s dress. We are working on translations so everyone can enjoy her joyful, passionate words.

FAN (ci bach Cranogwen’s little dog)

Os nad all fyn’d o gartref,

   I wneyd gorchestion mawr,

Mae’n gwylio yma ar bob pryd,

   A’i llygad fel y wawr

CYMRU – WALES

O Gymru fynyddig! Fy Nghartref, fy ngwlad!

Ti ydwyt, ty fyddi am byth mewn mawrhâd;

Mae ysbryd y cerddor, mae awen y prydydd,

O hyd yn dy awel, o hyd yn dy fynydd

FY NGWLAD – MY COUNTRY

Fy ngwlad! Fy ngwlad! Fy anwyl Gymru lonydd!

Mor gu i mi yw’th fryniaw a’th afonydd!

Mor lâs, mor dêg, mor brydferth, yw dy wybren!

Mor lon dy haul, mor loew dy ffurfafen!

Mor bur, mor fwyn, mor dyner yw dy awel!

Ah mae dy bopeth di mor anwyl ac mor dawel!

Y SEREN – THE STARS

Seren anwyl, lawen, dlôs,

Gwenu’r wyt ar fron y nôs;

Dawnsio, mewn addurnol fri,

Ar y nef, ac ar y lli’;

O mor fyw a llon a llawen

Ydyd’th wedd, anwylaf seren!

DYFFRYN CRANOG (Crannog Valley)

Fan yma mae’r rhaiadr ofadwy yn rhuthro,

   Nes hurtio y pysgod a’r adar bob un;

Ac acw mae’r llynoedd, fel drychau ysblenydd,

   I’r cribog fynyddoedd i weled eu llûn;

Mewn un-lle mae’r clogwyn bygythiol, ysgythrog,

   Lle arall gwastadedd godidog a hardd;

Fan hon y mae ogof, ac acw mae llyngelyn,

   A draw y mae llanerch flodeuog fel gardd.

Fan hon mae y mynydd aruthrol yn cuddio

   Ei ben yn y cwmwl i dreulio y nos;

Fan acw mae’r gornant chwareus yn llifo

   Rhwgn glenydd sydd dyfrith o flodau a rhos:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *