Mae’n bleser gan Dîm Cerflun Cymunedol Cranogwen gyhoeddi ein bod wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer cerflun Cranogwen, a’r gwaith o adnewyddu’r ardd gymunedol lle bydd y cerflun yn y pendraw. Bydd hyn yn deyrnged deilwng i Cranogwen, arwres arloesol Llangrannog.
Bydd y cerflun a’r plinth yn 2.3m o uchder. Bydd y waliau llechen gwreiddiol yn parhau i fod yn yr ardd a bydd mynedfa newydd, hygyrch i bawb. Ar y llawr, bydd carreg naturiol yn cael ei defnyddio gyda cherdd gan Cranogwen hyd ymyl y llwybr troellog, canolog. Bydd seddi a lleoedd plannu newydd.
Dywed yr adroddiad cynllunio: “Mae’r cais yn golygu gwelliant i’r ardd gyhoeddus. Mae’r dyluniad yn un priodol a deniadol i gofio person o bwys lleol a chenedlaethol. Bydd hefyd yn welliant i’r tirwedd pell ac agos”.
Mae’r tîm sydd ynghlwm â’r prosiect wedi llwyddo i godi’r arian ar gyfer y cerflun, gan gynnwys grant newydd o £18,000 gan Gynllun Grant Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion.
Mae’r codi arian ar gyfer ail-ddatblygu’r ardd yn parhau a bydd Ras Hwyaid ar draeth Llangrannog ar Llun y Pasg. Os hoffech gyfrannu at yr achos (neu brynu hwyaden), plîs cysylltwch â ni neu ewch i safle GoFundMe: https://gofund.me/5ce4bf44