Categories
Digwyddiadau

Taith Mewn Cymeriad Tour

Roedd noson agoriadol Sioe Mewn Cymeriad – Cranogwen yn un llwyddiannus tu hwnt gyda Neuadd Pontgarreg dan ei sang. Cafwyd cymeradwyaeth frwd iawn i bortread Lynwen Haf Roberts o Cranogwen a’i hanes. Yn y sioe 60 munud o hyd, roedd yna ddagrau, chwerthin, syndod ac ysbrydoliaeth wrth i Lynwen bortreadu bywyd y wraig ryfeddol hon.

Mae’r sioe yn teithio Cymru ar hyn o bryd ac mae yna rai tocynnau ar werth ar gyfer gweddill y daith, gan gynnwys un sioe Saesneg yng Nghaerdydd. Ceir mwy o fanylion yma. https://www.mewncymeriad.cymru/cranogwen

Roedd Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument yn cefnogi’r daith a bydd cyfran o’r elw yn mynd tuag at brosiect y cerflun. Hoffen ni ddiolch o galon i Mewn Cymeriad a Lynwen am greu’r sioe ar ein cyfer.

The opening night of Mewn Cymeriad – Cranogwen on 30 September was a resounding success, with a packed-out Pontgarreg Hall and rapturous applause for Lynwen Haf Roberts’ portrayal of Cranogwen and her history. In a 60 minute show she managed to bring tears, laughter, wonder and inspiration with her interpretation of this fascinating woman’s life. 

There are limited tickets left for the remaining dates of the show (including one English-language night in Cardiff) and you can see more details here.  https://www.mewncymeriad.cymru/cranogwen

Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument supported the show and will receive a donation from the proceeds, which will all go towards the statue project. We would like to thank Mewn Cymeriad and Lynwen unreservedly for bringing this to us. 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *